Placeholder image
English LanguageWelsh Language

Blog - Gerddi Bro Ddyfi Gardens

Back

0 Cylchlythyr yr Hydref

  • by Angela Paxton
  • 29-03-2022
Your vote is:
0.00 of 0 votes

Annwyl ffrindiau

Croeso i gylchlythyr yr hydref. Drwy gydol yr haf, mae’r gerddi a’n gwirfoddolwyr wedi bod yn brysur gyda gweithdai a digwyddiadau cymunedol a ariannwyd gan ein prosiect dan nawdd y Gronfa Gymunedol, 'Tyfu gyda'n gilydd'.  Rydyn ni wedi bod yn ffodus o gael y tywydd gorau posib i’r rhan fwyaf o’r diwrnodau hyn. Erbyn hyn, mae’r hydref wedi cyrraedd ac rydyn ni’n mwynhau’r tymor tawelach a mwy myfyrgar yma.
 
Mae uchafbwyntiau’r cylchlythyr hwn yn cynnwys adroddiadau am ddigwyddiadau cymunedol, enillwyr ein Cystadleuaeth Ffotograffiaeth i’r haf a phenodi Cydlynydd Gwirfoddolwyr Cynorthwyol newydd.   
 
Gweithdai Cymunedol 
Mae gweithdai dros yr haf a’r hydref wedi cynnwys Chwarae Synhwyraidd ar y thema Gweirgloddiau, Lliwio Naturiol, Ffotograffiaeth a Garddio Hinsawdd-Gyfeillgar (gweler isod). Rydyn ni’n dal i ofyn i gyfranogwyr ddod â mygydau ar gyfer unrhyw waith dan do neu agos a chadw pellter cymdeithasol oddi wrth bobl eraill – diolch i bawb am eich cydweithrediad ynglŷn â hyn.
 

Chwilio am ysbrydoliaeth yn y gweithdy ffotograffiaeth gyda Jean Napier MA.
 

Wythnos Hinsawdd Cymru
Bu gwirfoddolwyr o Erddi Bro Ddyfi yn cymryd rhan mewn 3 digwyddiad fel rhan o wythnos Hinsawdd Cymru. Cafwyd stondin wybodaeth yn y digwyddiad Ein Cymuned, Ein Hinsawdd 19 Medi, gweithdy Garddio Hinsawdd-Gyfeillgar gyda’r awdur Kim Stoddart 23 Medi a Gŵyl Cynhaeaf y Coed (gweler isod) 26 Medi, i ddathlu ein coed lleol a chynhaeaf eu cnydau.  
 

Rhoddodd Kim Stoddart gyngor ar wneud gerddi’n fwy cydnerth yn wyneb newid yn yr hinsawdd. 
 
Digwyddiadau Cymunedol
Mae digwyddiadau cymunedol yn y gerddi wedi cynnwys Ffair Bladuro, Gŵyl Beillwyr a Gŵyl Cynhaeaf y Coed. Mae llawer o ymwelwyr wedi dweud faint maen nhw wedi mwynhau gallu dod draw i’r digwyddiadau bach hyn yn yr awyr agored. 
 
Ar ddiwrnod heulog y Ffair Bladuro roedd cymysgedd ardderchog o bladurwyr profiadol a newydd gynnon ni a llwyddon ni i bladuro a chribinio bron y cwbwl o’r weirglodd. Hefyd, dysgon ni sut i ddefnyddio 'bachyn a chrwcyn' i dorri ymylon lletchwith.
 
Rydyn ni wedi cynnal gweithdai bywyd gwyllt a chelf i blant yn yr Ŵyl Beillwyr a Gŵyl Cynhaeaf y Coed gyda cherddoriaeth wych gan y cerddorion lleol Zaffiro Band a Sunshine Jazz Band. Daeth pobl â’u hafalau eu hunain i’w torri, eu stwnsio a’u gwasgu’n sudd ar ddiwrnod Gŵyl Cynhaeaf y Coed oedd yn llawer o hwyl.
 

Stwnsio afalau yng Ngŵyl Cynhaeaf  y Coed cyn eu gwasgu’n sudd blasus.
 
Sunshine Jazz, crefftau’r hydref a theisen eirin Sbaen yng Ngŵyl Cynhaeaf y Coed.

 
Daeth y dyfwraig leol Lynn Williams â dau flyched o sudd afal wedi'i basteureiddio a wnaed o’r ffrwythau y mae’n eu tyfu’n lleol (Friddgate) ac a gafodd eu gwasgu yng Ngŵyl Cynhaeaf y Coed. Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at y sudd afal bendigedig yn ein sesiynau galw heibio, yn ogystal â sudd sbeislyd cynnes ar ddiwrnodau oer.
 

Sudd afal Friddgate i wirfoddolwyr. 
 
Cystadleuaeth Ffotograffiaeth yr Haf
Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran yn ein Cystadleuaeth Ffotograffiaeth yn yr haf. Cynhaliwyd seremoni wobrwyo ac arddangosfa yn y gerddi cymunedol 13 Medi.
 
Aeth y wobr gyntaf i oedolion i David Leppard a dderbyniodd daleb £60 am bryd o fwyd gan Westy’r Wynnstay. Henry Brown a enillodd y wobr gyntaf i bobl o dan 18 oed gan dderbyn £60 gan y cwmni trydanol Bright Sparks. Aeth yr ail wobr i Siân Campion a dderbyniodd bibell ddŵr a roddwyd gan Travis Perkins a’r enillwyr a gafodd gymeradwyaeth uchel oedd Louise Smith a dderbyniodd daleb £10 gan Siop Gyfanfwyd Dyfi a Pat Leppard a dderbyniodd daleb £10 gan Blodyn Tatws. Diolch yn fawr iawn i’r holl noddwyr lleol yma.
 

 

Aeth y Wobr Gyntaf i oedolion i David Leppard am y macro-ffoto yma o’r ysgallen bengron. 
 
Mae’r lluniau buddugol ar ein gwefan ac mewn arddangosfa fechan yn Siop Achub y Plant ym Machynlleth, er mwyn i bobl eu gwerthfawrogi a phleidleisio ar gyfer Gwobr ‘Dewis y Bobl’ – bydd yr enillydd yn derbyn taleb £10 gan Siop Lyfrau Oriel Pen'rallt a llyfr ffotograffiaeth o’i ddewis gan Jean Napier MA. Y dyddiad cau ar gyfer pleidleisio yw 15 Hydref.
 

Henry yn derbyn y wobr gyntaf i bobl dan 18 oed gan Mark Clive o Bright Sparks.
 
Gwirfoddoli yn y Gerddi
Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn helpu efo tasgau tymhorol yn y gerddi, fel hel a chadw hadau, chwynnu, hau a phlannu. Hefyd, rydyn ni wedi dechrau clirio a chynllunio border newydd i Ardd yr Apothecari a fydd yn cynnwys collen ystwyth, helygen Mair a llysiau llesol lluosflwydd. Fel bob amser yr adeg yma o’r flwyddyn, rydyn ni’n ceisio cadw’r ddysgl yn wastad rhwng cadw’r ardd yn daclus i ymwelwyr a sicrhau bod digon o gartrefi dros y gaeaf i fywyd gwyllt hefyd, megis dail, coesynnau a phennau hadau i bryfed ac adar.
 

Mae cribau’r pannwr yn darparu hadau i nicos yn yr hydref.
 
Pum Llwybr at Lesiant yng Ngerddi Bro Ddyfi
Mae’r Pum Llwybr at Lesiant yn ganolog i’n gwaith yng Ngerddi Bro Ddyfi. Camau yw’r rhain sy’n hyrwyddo llesiant, sef Cysylltu, Bod yn Egnïol, Cymryd Sylw, Dal Ati i Ddysgu a Rhoi. Yn y gerddi cymunedol, rydyn ni’n gwneud ymdrech i gynnig yr holl lwybrau hyn at lesiant i’n gwirfoddolwyr a’n cefnogwyr. Dewch draw i sesiwn alw heibio a rhoi hwb i’ch llesiant!
 
Mae ein sesiynau galw heibio i bawb ar ddyddiau Mawrth ac Iau o 10.30yb tan 4yp. Croeso i bawb beth bynnag yw’ch profiad a lefel eich ffitrwydd – dewch draw i gael sgwrs a phaned i weld beth rydyn ni’n ei wneud.
 
Gweithdai’r Hydref 
Mae gynnon ni amryw o weithdai celf a chrefft wedi’u seilio ar natur yn yr arfaeth yn yr ychydig fisoedd nesaf, i helpu ein cymuned leol drwy ddyddiau du’r gaeaf. Bydd y gweithdai sydd ar y gweill yn cynnwys gwaith coed, ymwybyddiaeth ofalgar a gweithgareddau crefft yr hydref/gaeaf gan gynnwys addurniadau a thorchau tymhorol ar gyfer mis Tachwedd a Rhagfyr.

Cadwch lygad ar ein gwefan, tudalen Facebook a chyfryngau lleol i gael y dyddiadau a gwybodaeth ddiweddaraf am y rhain.
 
Penodi Cydlynydd Gwirfoddolwyr Cynorthwyol
Mae gynnon ni Gydlynydd Gwirfoddolwyr Cynorthwyol newydd, Fern Towers, a ddechreuodd ym mis Awst. Ynghynt mae Fern wedi rheoli fferm ‘ofal’ organig yng Ngogledd Iwerddon ac ar hyn o bryd mae’n gwneud cwrs gradd feistr rhan-amser yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen mewn Bwyd Cynaliadwy ac Adnoddau Naturiol. Yn ogystal â helpu i gydlynu ein sesiynau garddio i wirfoddolwr a’n grŵp plant, mae Fern yn edrych ar syniadau codi arian i’r dyfodol ac yn mynd i ddiweddaru ein cyfrif Instagram i gyrraedd cynulleidfa ehangach. Y

Cydlynydd Gwirfoddolwyr Cynorthwyol newydd, Fern (chwith) gyda’r wirfoddolwraig Rachel. 
 
Y Grŵp Plant
Mae Fern wedi cymryd drosodd y grŵp plant oddi wrth Anita ac wedi bod yn arwain gweithgareddau seiliedig ar natur fel gwneud gludweithiau gwyllt a bwydwyr adar o foch coed. Bydd y grŵp plant nesaf yn digwydd ddydd Mawrth 12 Hydref am 1.30yp tan 3.30yp. Rhaid i rieni, neu warcheidwaid, aros yn y sesiwn gyda’u plant.
 

Gludwaith gwyllt wedi’i wneud gyda’r grŵp plant. 
 
Grwpiau sy’n defnyddio’r gerddi
Mae llawer o grwpiau cymunedol wedi bod yn defnyddio’r gerddi ar gyfer gweithgareddau, gan gynnwys Grŵp Bioamrywiaeth Machynlleth, Drymio Band Samba, Y Clwb Gwyddbwyll, digwyddiad ‘Byd o Flodau Gwyllt’ a grŵp theatr cymunedol a lwyfannodd ddrama, All the World’s a Stage, gyda “cherddoriaeth, chwerthin a Shakespeare.”
 
Os hoffech ddefnyddio’r gerddi ar gyfer gweithgaredd neu ddigwyddiad, cysylltwch â ni drwy’r we-dudalen i wneud yn siŵr nad oes digwyddiad arall ar y gweill. Ni chodir unrhyw dâl i ddefnyddio’r gerddi – er bod yna groeso i gyfraniadau.
 

Y Clwb Gwyddbwyll Awyr Agored yn y gerddi yn yr haf eleni.
 

Aelodau Newydd o’r Pwyllgor
Rydyn ni’n falch o groesawu dau aelod newydd i’n pwyllgor, Sophie a Mel. Os hoffech gefnogi’r gerddi cymunedol drwy ymuno â’n pwyllgor fel aelod neu aelod cyfetholedig, dewch i gysylltiad ar bob cyfri. Mae yna lwyth o ffyrdd o helpu’r gerddi fel aelod o’r pwyllgor, o helpu i drefnu a chyhoeddi digwyddiadau, i gynllunio i’r dyfodol a chefnogi ochr weinyddol y Gerddi.

Gobeithio’ch gweld chi yn fuan.
 
Tȋm Gerddi Bro Ddyfi
https://www.gerddibroddyfigardens.co.uk/