Placeholder image
English LanguageWelsh Language

Blog from the Gerddi Bro Ddyfi Garden

Back

0 Cylchlythyr y Gwanwyn 2021

  • by Administrator
  • 03-08-2021
Your vote is:
0.00 of 0 votes

Annwyl ffrindiau

Croeso i gylchlythyr y Gwanwyn.

Er bod llawer o weithgareddau ein prosiect a ariennir gan y Gronfa Gymunedol ,Tyfu Gyda’n Gilydd, wedi’u hatal yn ystod y cyfnod clo, mae’r gerddi wedi aros yn agored i bawb ac rydyn ni wedi bod yn gweithio i wella’r safle yn ystod misoedd y gaeaf. Erbyn hyn, rydyn ni’n edrych ymlaen at ddechrau gweithdai ac efallai ddigwyddiadau bach unwaith i’r cyfyngiadau godi. 

Hefyd yn cael sylw yn ein cylchlythyr heddiw, rydyn ni wedi bod yn ymestyn allan i’r gymuned drwy ein prosiect Hwb i Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, gyda’r Grŵp Llysieuol yn ymestyn y tu hwnt i Gymru – gweler isod.

Gwella’r gerddi 
Dros y gaeaf rydyn ni wedi gorffen y ramp ar gyfer y bont newydd, lledu’r prif lwybr a gosod ymylon a meinciau newydd. Ein gobaith yw y bydd hyn yn ei gwneud yn haws i fwy o bobl gael mynediad i’r gerddi gan alluogi ymwelwyr i fwynhau’r gwahanol ofodau sydd gynnon ni. 

Mae’r fainc ‘chaise longue’ newydd a wnaed gan y crefftwr lleol Pete yn rhoi golygfa ar draws y ddôl blodau gwyllt.

Bu’r gwirfoddolwyr hefyd yn gweithio ar y pwll bywyd gwyllt, gan leihau lefel y dŵr i’w atal rhag gorlifo dros y prif lwybr ac yn creu ardal lonydd i amffibiaid. Erbyn hyn, rydyn ni’n meddwl bod angen mainc arall er mwyn gwerthfawrogi’r olygfa hyfryd!

Yr olygfa dros y pwll bywyd gwyllt tuag at y bont newydd.   

Hwb i Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd
Mae prosiect ‘Hwb i Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd’, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, wedi’n galluogi i weithio gyda thrigolion a grwpiau lleol sydd wedi gwirfoddoli fel ‘ceidwaid coed’ ym Machynlleth a Dyffryn Dyfi i blannu a gofalu am goed ffrwythau neu gnau ar safleoedd cyhoeddus. Mae’r grŵp ambarél 'Gelli Deg Dyfi' wedi cefnogi’r gwaith yma a bydd yn parhau â’r prosiect pan fydd y cyllid hwn yn dod i ben. 

Mae Ceidwaid y Coed wedi plannu tua 70 o goed ffrwythau a chnau, gan gynnwys afalau, gellyg, eirin Sbaen, ceirios a chnau Ffrengig, yn ogystal â chyrens duon, llus America a riwbob. Mae’r coed a’r llwyni ffrwythau meddal ar 14 o wahanol safleoedd, gan gynnwys stad dai Bryn y Gog, eiddo cymdeithas dai Barcud, stad y Plas, ysgolion lleol a chwaraefeydd plant yng Nghorris, Ceinws a Glantwymyn. Gwnaethpwyd yr holl blannu o fewn cyfyngiadau Covid-19 i gadw trigolion yn ddiogel. 

Plannwyd hefinwydden gan Tom a Robin yn stad y Plas. 


Ceirios melys a sur wrth fynedfa’r Plas a blannwyd gan geidwaid y coed Jay, Sylvie, Amy a Gabi, gyda llewys coed wedi’u saernïo’n lleol. 

Llysieuyddion Heb Ffiniau
Mae Anita, Cydlynydd Cynorthwyol Gerddi Bro Ddyfi ar gyfer y gwirfoddolwyr, a’r Grŵp Llysieuol sy’n gofalu am Ardd yr Apothecari (sy’n ailddechrau ar ôl 26 Ebrill) yn mynd i weithio gyda Llysieuyddion Heb Ffiniau y DU. Grŵp ambarél yn DU ac Iwerddon yw hwn sy’n casglu llysiau meddyginiaethol i’w rhoi am ddim i ffoaduriaid mewn gwersylloedd ar draws Ewrop. 

Mae llawer o’r planhigion y mae galw arbennig amdanyn nhw eisoes yn tyfu yn y gerddi cymunedol, fel balm lemon, mintys, camri, marchalan, teim, lafant a mantell Fair. Os hoffech chi fod yn rhan o grŵp canolbarth Cymru cysylltwch drwy anitya@riseup.net neu 07983318893.

Yr Ardd Goedwig a’r Berllan Gymunedol 
Dros y gaeaf, fe wnaethon ni blannu coed, llwyni a phlanhigion lluosflwydd newydd i gymryd lle rhai o’r hen stoc ddarfodedig ac i lenwi bylchau, gan gynnwys coed ceirios ‘Cariad’, cwyrosyn y ceirios a choed coeg-geirios, cyll, ffigys ac ysgaw ‘Hauschberg’.

Plannodd Julia a’i mab Jonah ysgawen 'Hauschberg'. 

Cafwyd cyllid i lawer o’r rhain gan yr Hwb i Weithredu ar Newid yn yr Hinsawdd, roedd rhai o’n prif brosiect a hefyd rhoddwyd pedair coeden ffrwythau i ni gan Cadw Cymru’n Daclus. Mae rhai o’r coed a blannwyd yn 2019 yn blodeuo ar hyn o bryd ac rydyn ni’n gobeithio cael eirin ac eirin Sbaen eleni.

Coeden eirin Sbaen 'Abergwyngregyn' yn ei blodau

Grwpiau plant yn y gerddi
Ar ôl i weithgareddau awyr agored i blant gael eu caniatáu yng Nghymru, dechreuodd y grŵp cyn-ysgol, Mes, a grŵp plant Gerddi Bro Ddyfi gyfarfod yn y gerddi ar gyfer gweithgareddau bywyd gwyllt a chrefft. Yr wythnos yma, cafodd grŵp y plant helfa drysor, buon nhw’n gwneud ‘gardd tylwyth teg’ mewn un o’r gwelyau helyg crynion ac yn plannu tatws cynnar ail gnwd Nicola yn y gwelyau llysiau. Da iawn blant!

Y Tŷ Tylwyth Teg newydd a wnaethpwyd gan grŵp y plant.

Diweddariadau i’r wefan
Mae gwefan Gerddi Bro Ddyfi wedi cael ei hadfywio dros yr ychydig fisoedd diwethaf i fod yn hollol ddwyieithog ac mae’n cynnwys tudalen calendr digwyddiadau. Bydd yr Hwb i Weithredu ar Newid yn yr Hinsawdd hefyd yn ein galluogi i ychwanegu blog newydd a map cyfredol. 

Prosiect Ieuenctid Newydd 
Rydyn ni wedi derbyn rhywfaint o gyllid gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys i weithio gyda phobl ifainc yn yr ardal. Mae Norma McCarten, cadeirydd Gerddi Bro Ddyfi, yn gweithio ar hyn ac mae mewn cysylltiad ag athrawon a Swyddog Llesiant Ysgol Uwchradd Bro Hyddgen, yn ogystal â gweithwyr ieuenctid ac artistiaid cymunedol, i feddwl am weithgareddau awyr agored y gall pobl ifainc leol eu mwynhau a chael budd ohonynt. Ein gobaith yw y bydd hyn yn helpu o ran yr ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd wedi bod yn broblem yn y gerddi’n ddiweddar.

Sesiynau galw-heibio, Gweithdai a Stondin yn y Farchnad
Ar ôl 26 Ebrill byddwn yn parhau â’n sesiynau garddio galw-heibio cynhwysol ac yn dechrau cynnal gweithdai bychain yn yr awyr agored – gweler y blwch sy’n dangos digwyddiadau sydd ar y gweill. Hyd yma, mae gynnon ni weithdy ‘gildiau coed ffrwythau’ (Ceidwaid y Coed), gweithgareddau Ysgol Goedwig i Blant, Ffair Eginblanhigion, a chwrs tyfu madarch awyr agored. Byddwn yn hysbysebu gweithdai newydd ar ein gwefan, tudalen Facebook ac yn y cylchlythyr lleol Machynlleth Swapshop.

Byddwn yn cynnal stondin bob mis ym marchnad dydd Mercher Machynlleth o fis Mai tan fis Awst gyda blodau gwyllt, perlysiau a phlanhigion bwytadwy wedi’u tyfu’n organig, i gyd ar gael am rodd. Dewch draw i ddweud ‘helô’!

Gobeithio’ch gweld chi yn fuan.
 
Tȋm Gerddi Bro Ddyfi