Placeholder image
English LanguageWelsh Language

Blog from the Gerddi Bro Ddyfi Garden

Back

0 Cylchlythyr yr Hydref/Gaeaf 2020

  • by Angela Paxton
  • 04-05-2021
Your vote is:
0.00 of 0 votes

Newidiadau i’r lloches 
I wneud y lloches yn fwy diogel ar gyfer ein sesiynau galw heibio a’n gweithdai, bu Anita, ein Cydlynydd Cynorthwyol ar gyfer y gwirfoddolwyr, yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i dynnu’r palis pren yn y lloches a’r ffenestri persbecs gan greu mwy o le yn yr adeilad a chynyddu’r cylchrediad aer. Mae’r adeilad bellach yn well o lawer o ran cadw pellter cymdeithasol. 
 
Mae grwpiau lleol, gan gynnwys Cybiau 1af Machynlleth, grŵp drymio samba, Grŵp Myfyrio Machynlleth, XR Machynlleth, grŵp cyn ysgol Acorns ac eraill wedi dechrau defnyddio’r gerddi a’r lloches ar ei newydd wedd sy’n ei gwneud yn haws trefnu gweithgareddau o fewn y cyfyngiadau.
 

Cynhaliodd Grŵp Myfyrio Machynlleth encilfa Mannau Sanctaidd a diwrnod gwaith yn y gerddi. 
 

Gweithdai
Mae ein gweithdai Tyfu Gyda'n Gilydd wedi parhau. Rydyn ni wedi cadw grwpiau’n fach, yn aml yn cynnal ychydig sesiynau byr gyda niferoedd bach ym mhob un i gadw pobl yn saff. Ers mis Medi rydyn ni wedi cael arlunio ag inciau a deunyddiau naturiol, ioga awyr agored, qi gong, plethu mieri, gwneud sgepiau i wenynwyr, gwneud torchau Nadoligaidd a byddwn yn cynnal gweithdy ‘Cennau ar Frigau’ ddydd Sadwrn 12 Rhagfyr. 
 

Torch Nadoligaidd hardd a wnaethpwyd yn ein gweithdy diweddar, i gyd â deunyddiau naturiol o Ddyffryn Dyfi. 
 
Yn y flwyddyn newydd byddwn ni’n cynnal gweithdai gwneud meinciau, impio coed ffrwythau, cerfluniau natur, gwneud blychau ystlumod a phethau eraill. Cysylltwch â ni os oes gynnoch chi syniad ar gyfer gweithdy cymunedol bach.
 
Gwelliannau i lwybrau a phont hygyrch newydd
Yn sgil adborth o’n harolwg hygyrchedd y llynedd rydyn ni wedi bod yn gweithio i wella’r prif lwybr i’r gerddi. Mae gwirfoddolwyr wedi gosod ymylon newydd i wneud y llwybr yn lletach ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn ac wedi dod â llwch gro i greu wyneb newydd. Hyd yn hyn, mae ein gwirfoddolwyr anhygoel wedi whilbera 16 o dunelli o ro i’r gerddi! 
 
O’r diwedd mae gynnon ni ein pont hygyrch newydd i liniaru unrhyw lifogydd, rhywbeth sydd wedi bod yn gymaint o broblem yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae plant yn falch o allu chwarae 'pooh sticks' ar y bont hefyd.
 

Mae’r bont newydd ar agor ar gyfer 'pooh sticks'.
 
Yn ystod y mis nesaf rydyn ni’n mynd i osod rhai grisiau newydd yn arwain o’r ramp newydd tuag at y guddfan roced ac yn ystyried dulliau naturiol o gynnal glannau’r nant lle tynnwyd y llwybr a’r bibell ddraenio. Hyderwn y bydd gynnon ni lai o broblemau bellach gyda llifogydd a bydd ein gerddi’n hygyrch am y rhan fwyaf o’r amser.
 
Hwb i Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd
Cynigiwyd Hwb i Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd i’r Gerddi gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fel taliad atodol i’n prif brosiect Tyfu Gyda’n Gilydd. Ar ôl ein llwyddiant wrth blannu perllan gymunedol y llynedd a thrafodaethau â phobl leol, dyma ni’n penderfynu gofyn am ddefnyddio’r arian i blannu coed ffrwythau a chnau o gwmpas Machynlleth.
 
Roedden ni’n llwyddiannus gyda’r cais hwn ac mae grŵp ambarél, 'Gelli Deg Dyfi' wedi’i ffurfio sy’n cynnwys grwpiau cymunedol fel Mach Maethlon a Llais y Goedwig a thrigolion lleol. Mae’r Gerddi’n arwain hwn fel prosiect ar wahân i’n gweithgareddau arferol.
 
Mae aelodau o’r grŵp wedi codi ymwybyddiaeth o’r prosiect drwy stondin farchnad gymunedol, digwyddiad Siarter y Coed a thaflenni dwyieithog i annog trigolion lleol i ddod yn ‘Geidwaid Coed’ fel rhan o’r prosiect. Bydd y Ceidwaid Coed yn dewis eu coeden ffrwythau neu gnau eu hunain, ei phlannu (neu mi wnawn ni helpu) ac yn dysgu sut i ofalu amdani gyda hyfforddiant am ddim.
 

Stondin Gelli Deg Dyfi ar ddiwrnod Siarter y Coed, gyda system unffordd, tracio ac olrhain a rhagofalon Covid eraill ar gyfer digwyddiadau yn eu lle. 
 

Plannu’r gaeaf
Rydyn ni wedi parhau i blannu coed bach a llwyni yn y gerddi i ddarparu ffrwythau a chnau am ddim ac er lles bywyd gwyllt lleol. Mae gwirfoddolwyr wedi plannu ceiriosen Gymreig, Cariad, dwy geiriosen y cwyros (Cornus mas Kazalak a Shurien), dwy ysgawen, gan gynnwys Sambucus nigra Gymreig, Cae Rhos Lligwy, a llwyn gwmi (Eleagnus umbellata Garnet), a choed cyll ar gyfer polion ffa yn ogystal â chnau. Rydyn ni wedi defnyddio mycorhizzae bwytadwy brodorol wrth blannu (Chaos fungorum), i wella twf y coed a’r llwyni ac a fydd gobeithio yn esgor ar fadarch sy’n dda i’w bwyta yn y blynyddoedd i ddod.
 

Jay, un o’n gwirfoddolwyr, yn plannu coeden â gwreiddiau moel yn ein perllan gymunedol.
 
Diweddariadau i’r wefan
Rydyn ni’n defnyddio peth o’n harian cyhoeddusrwydd o’r prosiect Tyfu Gyda'n Gilydd i wneud diweddariadau i’n gwefan a fydd yn cynnwys blog newydd i’r gerddi a chalendr i ddangos digwyddiadau sydd ar y gweill. Ein gobaith yw y bydd hwn wedi’i gwblhau erbyn y Flwyddyn Newydd.
 
Rydyn ni’n ystyried ymgorffori’r cylchlythyr hwn yn y wefan newydd a bydden ni’n falch o glywed a fyddai’n well gynnoch chi dderbyn e-gylchlythyr neu a fyddech chi’n hapus cael diweddariadau ar y wefan. Da chi, rhowch wybod i ni be’ rydych chi’n feddwl.
 
Calendr y Gerddi
Yn anffodus, doedd dim modd i ni roi calendr at ei gilydd ar gyfer y flwyddyn i ddod gan nad oedd gynnon ni luniau digon eglur, ond ein gobaith yw gwneud hyn y flwyddyn nesaf. Os ydych yn ymweld â’r gerddi ac yn tynnu lluniau eglur iawn bydden ni wrth ein boddau eu gweld nhw.
 
Llun gaeafol o’r gerddi gan un o’n hymwelwyr rheolaidd Jeanette. 
 
Gobeithio’ch gweld chi yn fuan.
 
Tȋm Gerddi Bro Ddyfi